2012 Rhif 686 (Cy.94 )

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn newid blynyddoedd etholiadau cyffredin cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn a chynghorwyr i'r cynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn.

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn yn cael eu cynnal yn 2013 yn lle 2012. Mae hefyd yn darparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr i’r cynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn yn cael eu cynnal yn 2013 yn lle 2012.

Yn unol â hynny, mae cyfnod swydd cyfredol cynghorwyr presennol a etholwyd i Gyngor Sir Ynys Môn wedi ei estyn gan un flwyddyn. Mae cyfnod swydd cyfredol cynghorwyr cymuned presennol a etholwyd i gynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn hefyd wedi ei estyn felly gan un flwyddyn.

Mae’r cynllun ar gyfer ethol cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn yn aros yn ddigyfnewid, gan olygu y bydd etholiadau cyffredin dilynol yn cael eu cynnal bob pedair blynedd wedi 2013. Mae’r cynllun ar gyfer ethol cynghorwyr cymuned i’r cynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn hefyd yn aros yn ddigyfnewid, gan olygu y bydd etholiadau cyffredin dilynol yn cael eu cynnal bob pedair blynedd wedi 2013.

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwrth-wneud y darpariaethau cyffredinol o ran amseriad etholiadau cyffredin a chyfnod swydd cynghorwyr yng Nghymru sydd wedi eu nodi yn adran 26 (prif gynghorau) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gwrth-wneud y darpariaethau cyffredinol o ran amseriad etholiadau cyffredin a chyfnod swydd cynghorwyr cymuned yng Nghymru sydd wedi eu nodi yn adran 35 (cynghorau cymuned) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi o ran costau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Democratiaeth, Moeseg a Phartneriaeth, Adran Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

 


2012 Rhif 686(Cy.94 )

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012

Gwnaed                                 6 Mawrth 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru                                                6 Mawrth 2012

Yn dod i rym                        27 Mawrth 2012

Mae Gweinidogion Cymru’n gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 87, 105(2) a 106(1)(b) a (c) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000([1]), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt([2]):

Enwi, cychwyn, a chymhwyso

1.(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012, a daw i rym ar  27 Mawrth 2012.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Newid blwyddyn etholiadau cyffredin cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn

2.(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i etholiad cyffredin cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn.

(2) Bydd etholiadau a fuasai, oni bai am y Gorchymyn hwn, wedi eu cynnal ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr([3]) yn 2012 ac ym mhob pedwaredd flwyddyn wedi 2012([4]) yn cael eu cynnal yn lle hynny ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2013 ac ym mhob pedwaredd flwyddyn wedi 2013.

Cyfnod swydd cynghorwyr presennol

3. Yn unol â hynny, mae cyfnod swydd cynghorwyr presennol a etholwyd i Gyngor Sir Ynys Môn wedi ei estyn gan un flwyddyn.

Newid blwyddyn etholiadau cyffredin cynghorwyr cymuned i gynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn

4.(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i etholiad cyffredin cynghorwyr cymuned i gynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn.

(2) Bydd etholiadau a fuasai, oni bai am y Gorchymyn hwn, wedi eu cynnal ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr cymuned([5]) yn 2012 ac ym mhob pedwaredd flwyddyn wedi 2012([6]) yn cael eu cynnal yn lle hynny ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr cymuned yn 2013 ac ym mhob pedwaredd flwyddyn wedi 2013.

Cyfnod swydd cynghorwyr presennol

5. Yn unol â hynny, mae cyfnod swydd cynghorwyr cymuned presennol a etholwyd i gynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn wedi ei estyn gan un flwyddyn.

 

Carl Sargeant

 

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

 

6 Mawrth 2012

 

 



([1])           2000 p.22.              

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.           

([3])           Am ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr ardaloedd llywodraeth leol, gweler adran 37 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p.2), fel y'i diwygiwyd gan adran 18 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50), paragraffau 1 a 5 o Atodlen 3 i Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p.29), ac adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p.28).              

 

([4])           Am y flwyddyn y buasai etholiadau cyffredin wedi eu cynnal fel arall, gweler adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) mewn perthynas â chynghorwyr prif gynghorau.

 

([5])           Am ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr cymuned ardaloedd llywodraeth leol, gweler adran 37 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p.2), fel y'i diwygiwyd gan adran 18 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50), paragraffau 1 a 5 o Atodlen 3 i Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p.29), ac adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p.28).    

 

([6])           Am y flwyddyn y buasai etholiadau cyffredin wedi eu cynnal fel arall, gweler adran 35 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) mewn perthynas â chynghorwyr cymuned.